21 Pan glybu Duw yr araith hon,fel tân yn wreichion nynnodd,Yn Iago ac yn Israel,gan lid yn uchel digiodd.
22 A’i ddig oedd am na chredent hwyi Dduw a’i fwyfwy fowredd,Ac na welent pa iechyd oeddyn ei weithredoedd rhyfedd.
23 Gorchymmyn wybren, a’i gwarhau,egoryd drysau’r nefoedd:
24 A Manna’n fwyd, fel gwenith nef,a lawiodd ef iw luoedd.
25 Rhoi i ddyn gael rhyw luniaeth da,sef bara yr Angylion:
26 Gyrru rhyd wybren ddwyrain wynt,gydâ’r deheuwynt nerthlon.
27 Fel y llwch y rhoes gig iw hel,ac adar fel y tywod: