34 Tra fyddai Duw yn eu lladd hwy,os ceisient dramwy atto:Os doent drwy hiraeth at ei râs,yn forau glâs iw geisio.
35 Os cofient fod Duw iw holl hynt,graig iddynt a gwaredydd:
36 (Er ceisio siommi Duw’n y daith,â’i gweiniaith, ac â’i celwydd:
37 Er nad oedd eu calon yn iawn,na ffyddlawn iw gyfammod:)
38 Er hyn trugarhaei Duw o’r nef,a’i nodded ef oedd barod.Rhag eu difa, o’i lid y troes,ac ni chyffroes iw hartaith:
39 Cofiodd ddyn, os marw a wnai,nas gallai ddychwyl eilwaith.
40 Pa sawl gwaith y cyffroesant hwy,wrth fyned trwy’r anialwch?Gan ddigio Duw a’i lwyr dristhau,ynghreigiau y diffeithwch.