43 Rhoesai’n yr Aipht arwydd o’i râs,a’i wyrth yn ninas Zoan:
44 Y modd y troes eu dwfr yn waed,ni chaed dim glan-ddwfr allan.
45 Rhoes Duw yngwlâd yr Aipht iw plau,waed, gwybed, llau, a llyffaint:
46 Lindys, locust, i ddifa’i ffrwyth,a chenllysg lwyth, a mallhaint.
47 Distrywiodd Duw eu hyd, gwellt,
48 Eu coedydd, a’i han’feiliaid: (gwydd)A chenllysg cessair, mellt a roes,bu wrth eu heinioes danbaid.
49 Rhoes arnynt bwys ei lid, a’i fâr,ac ing anghreugar digllon:Ffrwyth ei lidiowgrwydd ef, a’i wg,anfonodd ddrwg angylion.