46 Lindys, locust, i ddifa’i ffrwyth,a chenllysg lwyth, a mallhaint.
47 Distrywiodd Duw eu hyd, gwellt,
48 Eu coedydd, a’i han’feiliaid: (gwydd)A chenllysg cessair, mellt a roes,bu wrth eu heinioes danbaid.
49 Rhoes arnynt bwys ei lid, a’i fâr,ac ing anghreugar digllon:Ffrwyth ei lidiowgrwydd ef, a’i wg,anfonodd ddrwg angylion.
50 Rhyw ffordd a hon iw lid a droes,heb ludd iw heinioes angau,Ond dwyn eu bywyd hwy drwy haint,yn ei ddigofaint yntau.
51 Yna y tarawdd un Duw Nafy plant cyntaf anedig:Yn nhir yr Aipht, a phebyll Cam,sef am ei fod yn llawnddig.
52 Ond (gan droi at ei bobl yn hawdd,)foi twysawdd drwy’r anialfan,Fel arwain defaid, llwybrau pell,yn wael ddiadell fechan.