53 Arweiniodd hwyntwy yn ddiofn,drwy’r mor (ffordd ddofn) heb wlychu:A’i goll elynion heb fwy stor,fe wnaeth i’r mor eu llyngcu.
54 Rhoes hwy i etifeddu’n rhydd,ym mynydd ei sancteiddrwydd:Yr hwn a ddarfu ei warhau,â llaw ddeau yr Arglwydd.
55 Rhoes ef y wlad i ddwyn pob ffrwythrhoes i bob llwyth ei gyfranO Israel, ac yn eu plaid, rhoi’r hen drigoliain allan.
56 Er hyn temptient, a digient Dduw,hwn unic yw sancteiddiol:Ac ni fynnent mo’r ufuddhau,iw dystiolaethau nefol.
57 Ond mynd ar gil, ac ymlaccau,fel eu holl dadau twyll-naws:Megis bwa a fai mewn câd,ac yntho dafliad gwyrdraws.
58 Hwyntwy yn fynych a’i cyffroent,mewn camwedd troent oddiwrthoAt wylfa nos, a delw o bren,fal hyn y digien efo.
59 Ond y Gorucha’n gweled hyn,a ddigiodd wrthyn hwythau:Felly dirmygodd Israel,a gadel ei ammodau.