55 Rhoes ef y wlad i ddwyn pob ffrwythrhoes i bob llwyth ei gyfranO Israel, ac yn eu plaid, rhoi’r hen drigoliain allan.
56 Er hyn temptient, a digient Dduw,hwn unic yw sancteiddiol:Ac ni fynnent mo’r ufuddhau,iw dystiolaethau nefol.
57 Ond mynd ar gil, ac ymlaccau,fel eu holl dadau twyll-naws:Megis bwa a fai mewn câd,ac yntho dafliad gwyrdraws.
58 Hwyntwy yn fynych a’i cyffroent,mewn camwedd troent oddiwrthoAt wylfa nos, a delw o bren,fal hyn y digien efo.
59 Ond y Gorucha’n gweled hyn,a ddigiodd wrthyn hwythau:Felly dirmygodd Israel,a gadel ei ammodau.
60 Yna’r ymadawodd efo,â chysegr Shilo dirion:Ei bebyll a’i brif ysgol ddysg,lle’ buasai’ mysg ei ddynion.
61 Ei nerth a roes i garchar caeth,dan elyn daeth eu mowredd: