57 Ond mynd ar gil, ac ymlaccau,fel eu holl dadau twyll-naws:Megis bwa a fai mewn câd,ac yntho dafliad gwyrdraws.
58 Hwyntwy yn fynych a’i cyffroent,mewn camwedd troent oddiwrthoAt wylfa nos, a delw o bren,fal hyn y digien efo.
59 Ond y Gorucha’n gweled hyn,a ddigiodd wrthyn hwythau:Felly dirmygodd Israel,a gadel ei ammodau.
60 Yna’r ymadawodd efo,â chysegr Shilo dirion:Ei bebyll a’i brif ysgol ddysg,lle’ buasai’ mysg ei ddynion.
61 Ei nerth a roes i garchar caeth,dan elyn daeth eu mowredd:
62 Ei bobl ei hun i’r cleddau llym’,(fal dyna rym’ ei ’ddigedd:)
63 Ei wyr ieuainc fo’i rhoes i’r tân,gweryfon glân rhoes heibio: