61 Ei nerth a roes i garchar caeth,dan elyn daeth eu mowredd:
62 Ei bobl ei hun i’r cleddau llym’,(fal dyna rym’ ei ’ddigedd:)
63 Ei wyr ieuainc fo’i rhoes i’r tân,gweryfon glân rhoes heibio:
64 Ei offeiriaid i’r cleddyf glâs,a’i weddw ni chafas wylo.
65 Yr Arglwydd gwedi hyn deffroe,fal un a ddoe o gysgu:Neu fal gwr cadarn wedi gwin,yn erwin iw dychrynu.
66 Taflodd y gelyn yn ei ol,rhoes mewn tragwyddol wradwydd,
67 Rhoes wyrion Joseph dan un pwyth,ac Ephraim lwyth i dramgwydd.