8 Rhag ofn mynd o’r genhedlaeth hynyn gyndyn ac anufydd:A chalon wan, ac yspryd gwael,heb afael gyda’i llywydd.
9 Eu tadau, fel plant Ephraim,yn arfog lym er saethu,Troesant eu cefnau yn y gâd,ymroi a dadynylu.
10 Cyfammod Duw a wrthodent,ni rodient yn ei Gyfraith,
11 Anghofio’i wyrth a welsent gynt,a’i ddeddfau oeddynt berffaith.
12 Yn nhir yr Aipht: ym maes Zoan,gwnaeth Duw gyflafan fwyfwy.
13 Rhoi dwfr y mor yn ddau dwfr crych,a’r llawr yn sych i drammwy.
14 Y dydd mewn niwl, y nos a thân,tywysai’n lân ei bobloedd: