3 Fel ffrydau dwfr tywallt a wnaed,eu gwaed o amglch dinasCaerselem, heb roi corph mewn bedd,fel dyma ddiwedd atgas.
4 Yn ddirmyg, gwradwydd, ac yn warth,i bawb o’n pobparth ydym.
5 O Dduw pa hyd? wyd byth yn ddig?ai fel tân ffyrnig poethlym?
6 Tywallt dy lid ar bobl estron,rhai nid adwaenon m’onot:Ac ar dyrnasoedd ni eilw,(Duw) ar dy enw hynod.
7 Cans wyrion Jagof (bobl oedd gu)y maent iw hysu’n rhyfedd:Ac a wnaethant i’r rhei’ni fodpreswylfod anghyfannedd.
8 Na chofia’n camwedd gynt i’n hoes,Duw bryssia moes drugaredd:Dy nodded a’n rhagflaeno nisy’ mewn trueni’n gorwedd.
9 O Dduw ein iechyd cymorth ni,er mwyn dy fri gogonol:A gwared er mwyn dy enw tau,ni rhag pechodau marwol.