1 O cenwch fawl i Dduw ein nerth,cerdd brydferth cenwch iddo:A llafar lais, a genau ffraeth,gerddwriaeth i Dduw Jago.
2 Cymerwch gathl y psallwyr lân,a moeswch dympan hefyd:A cheisiwch ganu gydâ hyny nabl a’r delyn hyfryd.
3 Cenwch udcyrn ar loer newydd,y pryd sydd nodol iddo:
4 Sef deddf yw hon ar wyl uchel,Duw Israel ac Jago.
5 Yn Joseph clymmodd hyn yn ddysg,pan ddaeth o fysg yr Aiphtwyr:Lle clywais iaith oedd ddieithr im’,heb ddeall dim o’i hystyr.
6 Dwedodd fy Nuw: drwy nerth fy mraichtynnais faich eich ysgwyddau:Ac felly tynnais eich dwy law,i’madaw a’r ffwrneisiau.