2 Mynych chwenychais weled hon,rhag mor dra-thirion ydoedd.Mae f’enaid i (fy Ion) mewn blys,i’th gyssegr lys dueddu:Fy nghalon i, a’m holl gnawd yw,yn Nuw byw’n gorfoleddu.
3 Aderyn y to cafodd dŷ,a’r wennol fry iw chywionLe wrth dy allor di iw trin,fy Nuw a’m brenin tirion.
4 Gwyn ei fyd a drig yn dy dy,caiff dy folianny ddigon:
5 Ac ynot ti sy’n cadarnhau,a’th lwybrau yn eu calon.
6 Pe rhon a gorfod ar y rhai’nrhyd glyn wylofain dramwy:Gosodant ffynnon iddyn nhw,a’r glaw a leinw fwyfwy.
7 Ant rhagddynt bawb o nerth i nerth,nes cael yn brydferth ddyfod:I’mddangos i Dduw gar ei fron,yn Seion ei breswylfod.
8 Arglwydd Dduw y lluoedd, clyw fi,a’m gweddi o Dduw Jagof: