2 Maddeuaist drowsedd dy bobl di,mae’i camwedd wedi’i guddio.
3 Tynnaist dy lid oddiarnom ni,troist dy ddiglloni awchlym:
4 (O Dduw ein nerth) tro ninnau’n well,a’th lid bid bell oddiwrthym.
5 Ai byth y digi wrthym ni?a sori di hyd ddiwedd?A saif dy lid o oes i oes?Duw gwrando, moes drugaredd.
6 Pam? oni throi di a’n bywhau,a llawenhau yr eiddod?
7 O dangos in’ dy nawdd mewn pryd,felly cawn iechyd ynod.
8 Beth a ddywaid Duw am danaf,mi a wrandawaf hynny:Fe draetha hedd iw bobl, a’i Sainct,rhag troi ym mraint ynfydu.