4 Cans dec can mlynedd fel doe ynt,pan elo’i helynt heibio,O’th flaen di, megis gwylfa nos,ni chaiff ymddangos etto.
5 Nid yw dyn ond fel hun,neu ail i addail, neu lifeiriant.Neu megis glâs lysieun gwan,mor fuan y newidiant.
6 Yr hwn y borau gwyrddlas fydd,a gwawr o newydd arno:Ond pan y torrer er brydnawn,yn fuan iawn mae’n gwywo.
7 Cans yn dy lid difethwyd nigan ofni dy ddigofaint,
8 Rhoist di ein beiau gar dy fron,a’n holl ddirgelion dryghaint:
9 Cans drwy dy ddig mae’n dyddiau ni,a’n tegwch gwedi darfod:A’n holl flynyddoedd ynt ar ben,fel gorphen hen chwedl gorfod.
10 Ein holl flynyddoedd yw saith ddeg,dau pump chwaneg os bydd grym:Yna ein nerth ai’n boen blin iawn,i ffordd yr awn yn gyflym.