7 Cans yn dy lid difethwyd nigan ofni dy ddigofaint,
8 Rhoist di ein beiau gar dy fron,a’n holl ddirgelion dryghaint:
9 Cans drwy dy ddig mae’n dyddiau ni,a’n tegwch gwedi darfod:A’n holl flynyddoedd ynt ar ben,fel gorphen hen chwedl gorfod.
10 Ein holl flynyddoedd yw saith ddeg,dau pump chwaneg os bydd grym:Yna ein nerth ai’n boen blin iawn,i ffordd yr awn yn gyflym.
11 Ond pwy a edwyn nerth dy lid?mawr ofid sydd o’th sorri:Sef fel y mae dy ofn di’n fawr,dy ddig sydd ddirfawr inni.
12 Dysg felly’n rifo’n dyddiau gwael,i’n calon gael doethineb.
13 Duw ba hyd? dyrd a dod yn hawddi’th weision nawdd ac undeb.