1 O dowch a chanwn i’r Arglwydd,efe yw llwydd ein bywyd:Ac ymlawenhawn yn ei nerth,ef yw ein prydferth iechyd.
2 O down yn un-fryd gar ei fron,â chalon bur ddiolchgar:Bryssiwn at Dduw dan lawenhau,a chanwn psalmau’n llafar.
3 Herwydd yr Arglwydd nef a llawr,y sy Dduw mawr yn ddiau:Tywysog mawr yw ef mewn trin,a brenin yr holl dduwiau.
4 Efe biau holl ddaiar gron,a’r dyfnder eigion danaw:Uchelder hefyd, eithafoedd,mynyddoedd sydd yn eiddaw.
5 Ef biau’r moroedd uwch pob traeth,ac ef a’i gwnaeth i ruo:Ei ddwylaw ffurfiasant yn wiry sych-dir ac sydd yntho.
6 O dowch, addolwn, cyd-ymgrymmwn,ac ymostyngwn iddaw:Ef yw ein Arglwydd un-ben rhi’,ef a’n gwnaeth ni â’i ddwylaw.