3 Herwydd yr Arglwydd nef a llawr,y sy Dduw mawr yn ddiau:Tywysog mawr yw ef mewn trin,a brenin yr holl dduwiau.
4 Efe biau holl ddaiar gron,a’r dyfnder eigion danaw:Uchelder hefyd, eithafoedd,mynyddoedd sydd yn eiddaw.
5 Ef biau’r moroedd uwch pob traeth,ac ef a’i gwnaeth i ruo:Ei ddwylaw ffurfiasant yn wiry sych-dir ac sydd yntho.
6 O dowch, addolwn, cyd-ymgrymmwn,ac ymostyngwn iddaw:Ef yw ein Arglwydd un-ben rhi’,ef a’n gwnaeth ni â’i ddwylaw.
7 Cans ef i ni y sydd Dduw da,a phobl ei borfa ydym:A'i ddefaid ym, os chwi a glywei air ef heddyw’n gyflym.
8 Meddyliwch fod eich bai ar lled,na fyddwch galed galon:Fel yn nydd prawf, mewn anial dir,lle y cofir bod ymryson.
9 Y lle temtiodd eich tadau fi,a’m profi i’m adnabod:Faint ydoedd y gweithredoedd mau,yn ddiau cawsant wybod.