1 Yr Arglwydd ydyw ein pen rhaith,bo perffaith y ddaiaren:Ynysoedd cedyrn yr holl fyd,bont hwy i gyd yn llawen.
2 Niwl a thywyllwch sy iw gylch ef,hyfrydwch nef gyfannedd:Iawnder a barn ydynt yn sail,ac adail maingc ei orsedd.
3 Tân â o’i flaen ef, ac a lysgym mysg ei holl elynion:
4 A’i fellt yn fflamio trwy’r holl fyd,oedd olwg enbyd ddigon.
5 O flaen Duw, fel y tawdd y cwyr,y bryniau’n llwyr a doddent:O flaen hwn (sef yr Arglwydd) ary ddaiar y diflannent.