Salm 10 BNET

Gweddi am gyfiawnder

1 O ARGLWYDD, pam wyt ti'n cadw draw?Pam wyt ti'n aros o'r golwg pan mae pethau'n anodd arna i?

2 Mae'r rhai drwg mor hy! Maen nhw'n hela'r tlawd –gwna iddyn nhw gael eu dal gan eu dyfais eu hunain!

3 Mae'r un drwg yn brolio ei fod yn cael ei ffordd ei hun;a'r lleidr yn melltithio a dirmygu'r ARGLWYDD.

4 Mae'r un drwg mor falch, yn swancioac yn dweud wrth ddirmygu'r ARGLWYDD:“Dydy e ddim yn galw neb i gyfri;Dydy Duw ddim yn bodoli!”

5 Ydy, mae'n meddwl y bydd e'n llwyddo bob amser.Dydy e'n gwybod dim am dy safonau di;ac mae'n wfftio pawb sy'n ei wrthwynebu.

6 Mae'n meddwl wrtho'i hun, “Dw i'n hollol saff.Mae popeth yn iawn! Fydda i byth mewn trafferthion.”

7 Mae e mor gegog! – yn llawn melltith a thwyll a gormes;a'i dafod yn gwneud dim ond drwg ac achosi trafferthion!

8 Mae'n cuddio wrth y pentrefi, yn barod i ymosod;mae'n neidio o'i guddfan a lladd y dieuog –unrhyw un sy'n ddigon anffodus.

9 Mae'n disgwyl yn ei guddfan fel llew yn ei ffau,yn barod i ddal y truan a'i gam-drin;ac mae'n ei ddal yn ei rwyd.

10 Mae'n plygu i lawr, yn swatio,ac mae rhywun anlwcus yn syrthio i'w grafangau.

11 Mae'n dweud wrtho'i hun, “Dydy Duw ddim yn poeni!Dydy e'n cymryd dim sylw.Dydy e byth yn edrych!”

12 Cod, O ARGLWYDD!Cod dy law i'w daro, O Dduw!Paid anghofio'r rhai sy'n cael eu gorthrymu.

13 Pam ddylai dyn drwg gael dilorni Duwa meddwl dy fod ti'n galw neb i gyfri?

14 Ti'n gweld y cwbl –ti'n sylwi ar y poen a'r dioddefaint.A byddi'n talu'n ôl!Mae'r un oedd yn anlwcus yn dy drystio di,am mai ti sy'n helpu plant amddifad.

15 Torra rym y dyn drwg!Galw fe i gyfrif am y drygioniroedd e'n meddwl na fyddet ti'n ei weld.

16 Mae'r ARGLWYDD yn frenin am bytha bydd y cenhedloedd yn diflannu o'r tir!

17 Ti'n gwrando ar lais y rhai sy'n cael eu gorthrymuyn crefu arnat, O ARGLWYDD.Byddan nhw'n teimlo'n saffam dy fod ti'n gwrando arnyn nhw.

18 Unwaith eto byddi'n rhoi cyfiawnderi'r amddifad a'r rhai sy'n cael eu sathru;byddi'n stopio dynion meidrol rhag eu gormesu.