1 Dw i wir yn caru'r ARGLWYDDam ei fod yn gwrando ar fy ngweddi.
2 Mae e'n troi i wrando arna ia dw i'n mynd i ddal ati i alw arno bob amser.
3 Roedd rhaffau marwolaeth wedi eu rhwymo amdana i;roedd ofn y bedd wedi gafael ynof fi.Ro'n i mewn helbul! Roedd fy sefyllfa'n druenus!
4 A dyma fi'n galw ar yr ARGLWYDD,“O ARGLWYDD, plîs achub fi!”
5 Mae'r ARGLWYDD mor hael a charedig;ydy, mae ein Duw ni mor drugarog.
6 Mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn pobl gyffredin;achubodd fi pan oeddwn i'n teimlo mor isel.
7 Ond bellach dw i'n gallu ymlacio eto!Mae'r ARGLWYDD wedi achub fy ngham!
8 Wyt, rwyt ti wedi achub fy mywyd i,cymryd y dagrau i ffwrdd,a'm cadw i rhag baglu.
9 Dw i'n mynd i fyw'n ffyddlon i'r ARGLWYDDar dir y byw.
10 Roeddwn i'n credu ynddo pan ddywedais,“Dw i'n diodde yn ofnadwy,”
11 ond yna dweud mewn panig,“Alla i ddim trystio unrhyw un.”
12 Sut alla i dalu nôl i'r ARGLWYDDam fod mor dda tuag ata i?
13 Dyma offrwm o win i ddiolch iddo am fy achub,a dw i am alw ar enw'r ARGLWYDD.
14 Dw i am gadw fy addewidion i'r ARGLWYDDo flaen ei bobl.
15 Mae bywyd pob un o'i bobl ffyddlonyn werthfawr yng ngolwg yr ARGLWYDD.
16 Plîs ARGLWYDD,dw i wir yn un o dy weisionac yn blentyn i dy forwyn.Rwyt ti wedi datod y clymau oedd yn fy rhwymo i.
17 Dw i'n cyflwyno offrwm i ddiolch i tiac yn galw ar enw yr ARGLWYDD.
18 Dw i am gadw fy addewidion i'r ARGLWYDDo flaen y bobl sy'n ei addoli
19 yn ei deml yn Jerwsalem.Haleliwia!