Salm 90 BNET

LLYFR PEDWAR

Duw y ddynoliaeth gyfan

Gweddi Moses, dyn Duw.

1 Fy Meistr, rwyt ti wedi bod yn lle saff i ni guddioar hyd y cenedlaethau.

2 Cyn i'r mynyddoedd gael eu geni,a chyn bod y ddaear a'r byd yn bodoli,roeddet ti yn Dduw, o dragwyddoldeb pell.

3 Ti sy'n anfon pobl yn ôl i'r pridddrwy ddweud, “Ewch yn ôl, chi bobl feidrol!”

4 Mae mil o flynyddoedd yn dy olwg difel diwrnod sydd wedi pasio heibio,neu fel gwylfa nos.

5 Ond mae pobl yn cael eu llethu gan gwsg,ac yna fel glaswellt yn adfywio yn y bore.

6 Mae'n tyfu ac yn llawn bywyd yn y bore,ond erbyn iddi nosi mae wedi gwywo a sychu.

7 Dyna sut dŷn ni'n gwywo pan rwyt ti'n gwylltio;mae dy lid yn ein dychryn ni am ein bywydau.

8 Ti'n gwybod am ein methiant ni i gyd,ac yn gweld ein pechodau cudd ni.

9 Mae'n bywydau ni'n mynd heibio dan dy ddig;mae'n blynyddoedd ni'n darfod fel ochenaid.

10 Dŷn ni'n byw am saith deg o flynyddoedd,wyth deg os cawn ni iechyd;ond mae'r gorau ohonyn nhw'n llawn trafferthion!Maen nhw'n mynd heibio mor sydyn!A dyna ni wedi mynd!

11 Does neb eto wedi profi holl rym dy lid.Mae dy ddig yn hawlio parch!

12 Felly dysga ni i wneud y gorau o'n dyddiau,a gwna ni'n ddoeth.

13 Tro yn ôl aton ni, ARGLWYDD! –Faint mwy mae'n rhaid i ni ddisgwyl?Dangos drugaredd at dy weision.

14 Gad i ni brofi dy gariad ffyddlon yn y bore,yn gwneud i ni ganu'n llawen bob dydd!

15 Gad i ni brofi hapusrwydd am yr un cyfnodag rwyt ti wedi'n cosbi ni –sef y blynyddoedd hynny pan mae popeth wedi mynd o'i le.

16 Gad i dy weision dy weld ti'n gwneud pethau mawr eto!Gad i'n plant ni weld mor wych wyt ti!

17 Boed i'r Meistr, ein Duw ni, fod yn garedig aton ni.Gwna i'n hymdrechion ni lwyddo.Ie, gwna i'n hymdrechion ni lwyddo!