1 Dw i wedi troi at yr ARGLWYDD i'm cadw'n saff.Felly sut allwch chi ddweud wrtho i:“Dianc i'r mynyddoedd fel aderyn!”?
2 “Gwylia dy hun!Mae'r rhai drwg yn plygu eu bwa,ac yn gosod saeth ar y llinyni saethu o'r cysgodionat y rhai sy'n byw'n gywir!”
3 Pan mae'r sylfeini wedi chwalu,beth all y cyfiawn ei gyflawni?
4 Mae'r ARGLWYDD yn ei balas sanctaidd!Ie, yr ARGLWYDD – mae ei orsedd yn y nefoedd!Mae e'n gweld y cwbl!Mae'n edrych yn fanwl ar y ddynoliaeth.
5 Mae'r ARGLWYDD yn gwylio y rhai cyfiawn,ond mae'n casáu y rhai drwg a'r rhai sy'n hoffi trais.
6 Bydd yn tywallt tân a lafa ar y rhai drwg!Corwynt dinistriol maen nhw'n ei haeddu!
7 Ydy, mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn.Mae'n caru gweld cyfiawnder,a bydd y rhai sy'n byw'n gywir yn cael gweld ei wyneb.