1 Os ydy'r ARGLWYDD ddim yn adeiladu'r tŷ,mae'r adeiladwyr yn gweithio'n galed i ddim pwrpas.Os ydy'r ARGLWYDD ddim yn amddiffyn dinas,mae'r gwyliwr yn cadw'n effro i ddim byd.
2 Does dim pwynt codi'n forenac aros ar eich traed yn hwyri weithio'n galed er mwyn cael bwyd i'w fwyta.Ie, Duw sy'n darparu ar gyfer y rhai mae'n eu caru,a hynny tra maen nhw'n cysgu.
3 Ac ie, yr ARGLWYDD sy'n rhoi meibion i bobl;gwobr ganddo fe ydy ffrwyth y groth.
4 Mae meibion sy'n cael eu geni i ddyn pan mae'n ifancfel saethau yn llaw'r milwr.
5 Mae'r dyn sy'n llenwi ei gawell gyda nhwwedi ei fendithio'n fawr!Fydd e ddim yn cael ei gywilyddiowrth ddadlau gyda'i elynion wrth giât y ddinas.