1 O Dduw, mae'r gwledydd paganaidd wedi cymryd dy dir.Maen nhw wedi halogi dy deml sanctaidda troi Jerwsalem yn bentwr o gerrig.
2 Maen nhw wedi gadael cyrff dy weisionyn fwyd i'r adar;a chnawd dy bobl ffyddlon i anifeiliaid gwylltion.
3 Mae gwaed dy bobl yn llifofel dŵr o gwmpas Jerwsalem,a does neb i gladdu'r cyrff.
4 Dŷn ni'n gyff gwawd i'n cymdogion;ac yn destun sbort a dirmyg i bawb o'n cwmpas.
5 Am faint mwy, O ARGLWYDD?Fyddi di'n ddig am byth?Fydd dy eiddigedd, sy'n llosgi fel tân, byth yn diffodd?
6 Tywallt dy lid ar y bobloedd sydd ddim yn dy naboda'r teyrnasoedd hynny sydd ddim yn dy addoli!
7 Nhw ydy'r rhai sydd wedi llarpio Jacoba dinistrio ei gartref.
8 Aethon ni ar gyfeiliorn, ond paid dal hynny yn ein herbyn.Brysia! Dangos dosturi aton ni,achos dŷn ni mewn trafferthion go iawn!
9 Helpa ni, O Dduw ein hachubwr,er mwyn dy enw da.Achub ni a maddau ein pechodau,er mwyn dy enw da.
10 Pam ddylai'r paganiaid gael dweud,“Ble mae eu Duw nhw?”Gad i ni dy weld di'n rhoi gwers i'r cenhedloedd,a talu'n ôl iddyn nhw am dywallt gwaed dy weision.
11 Gwrando ar y carcharorion rhyfel yn griddfan!Defnyddia dy nerth i arbedy rhai sydd wedi eu condemnio i farwolaeth!
12 Tala yn ôl yn llawn i'n cymdogion!Maen nhw wedi dy enllibio di, Feistr.
13 Yna byddwn ni, dy bobla phraidd dy borfa,yn ddiolchgar i ti am bythac yn dy foli di ar hyd y cenedlaethau!