1 Dewch, gadewch i ni ganu'n llawen i'r ARGLWYDD,a gweiddi'n mawl i'r Graig sy'n ein hachub!
2 Gadewch i ni fynd ato yn llawn diolch;gweiddi'n uchel a chanu mawl iddo!
3 Achos yr ARGLWYDD ydy'r Duw mawr;y Brenin mawr sy'n uwch na'r ‛duwiau‛ i gyd.
4 Mae mannau dyfna'r ddaear yn ei ddwylo,a chopaon y mynyddoedd hefyd!
5 Fe sydd piau'r môr, am mai fe wnaeth ei greu;a'r tir hefyd, gan mai ei ddwylo fe wnaeth ei siapio.
6 Dewch, gadewch i ni ei addoli ac ymgrymu iddo;mynd ar ein gliniau o flaen yr ARGLWYDD ein Crëwr.
7 Fe ydy'n Duw ni, a ni ydy ei bobl e;y defaid mae'n gofalu amdanyn nhw.O na fyddech chi'n gwrando arno heddiw!
8 “Peidiwch bod yn ystyfnig fel yn Meriba,neu ar y diwrnod hwnnw yn Massa, yn yr anialwch.
9 Yno roedd eich hynafiaid wedi herio fy awdurdod,a phrofi fy amynedd, er eu bod wedi gweld beth wnes i!
10 Am bedwar deg mlynedd ron i'n eu ffieiddio nhw:‘Maen nhw'n bobl hollol anwadal,’ meddwn i;‘dyn nhw ddim eisiau fy nilyn i.’
11 Felly digiais, a dweud ar lw,‘Chân nhw byth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gyda mi!’”