1 Mae'r duedd i droseddu yn ddwfn yng nghalon un drwg;does ganddo ddim parch at Dduw o gwbl.
2 Mae e mor llawn ohono'i hun, mae'n ddallac yn methu gweld y drygioni i'w gasáu.
3 Mae popeth mae e'n ddweud yn ddrwg ac yn dwyllodrus;dydy e'n poeni dim am wneud daioni.
4 Mae e'n gorwedd ar ei wely yn cynllwynio;mae e'n dilyn llwybr sydd ddim yn dda,ac yn gwrthod troi cefn ar ddrygioni.
5 O ARGLWYDD, mae dy ofal cariadus yn uwch na'r nefoedd;mae dy ffyddlondeb di y tu hwnt i'r cymylau!
6 Mae dy haelioni di mor gadarn a'r mynyddoedd uchel;mae dy gyfiawnder yn ddwfn fel y moroedd.Ti'n gofalu am bobl ac anifeiliaid, ARGLWYDD.
7 Mae dy ofal cariadus mor werthfawr, O Dduw!Mae'r ddynoliaeth yn saff dan gysgod dy adenydd.
8 Maen nhw'n cael bwyta o'r wledd sydd yn dy dŷ,ac yn cael yfed dŵr dy afon hyfryd di.
9 Ti ydy'r ffynnon sy'n rhoi bywyd;dy olau di sy'n rhoi'r gallu i ni weld.
10 Dal ati i ofalu am y rhai sy'n ffyddlon i ti,ac achub gam y rhai sy'n byw'n gywir.
11 Paid gadael i'r rhai balch fy sathru dan draed,nac i'r rhai drwg fy ngwneud i'n ddigartref.
12 Dw i'n gweld y rhai sy'n gwneud drygioni wedi syrthio!Dacw nhw wedi eu bwrw i lawr! Maen nhw'n methu codi!