1 Dangos drugaredd ata i, O Dduw,dw i'n cael fy erlid!Mae'r gelynion yn ymosod arna i drwy'r amser.
2 Maen nhw'n fy ngwylio i ac yn fy erlid i'n ddi-baid.Mae cymaint ohonyn nhw yn ymladd yn fy erbyn!O Dduw, y Goruchaf.
3 Pan mae gen i ofn, dw i'n dy drystio di –
4 Duw, yr un dw i'n gwybod sy'n cadw ei air!Dw i'n trystio Duw, does gen i ddim ofn.Beth all dynion meidrol ei wneud i mi?
5 Maen nhw'n twistio fy ngeiriaua dim ond eisiau gwneud niwed i mi.
6 Maen nhw'n dod at ei gilydd i ysbïo arna i.Maen nhw'n gwylio pob symudiad,ac yn edrych am gyfle i'm lladd.
7 Wyt ti'n mynd i adael iddyn nhw lwyddo?Bwrw nhw i lawr yn dy ddig, O Dduw!
8 Ti'n cadw cofnod bob tro dw i'n ochneidio.Ti'n casglu fy nagrau mewn costrel.Mae'r cwbl wedi ei ysgrifennu yn dy lyfr.
9 Bydd y gelyn yn ffoi pan fydda i'n galw arnat ti.Achos dw i'n gwybod un peth –mae Duw ar fy ochr i.
10 Duw, yr un dw i'n gwybod sy'n cadw ei air!Yr ARGLWYDD – dw i'n gwybod ei fod yn cadw ei air!
11 Dw i'n trystio Duw, does gen i ddim ofn.Beth all dynion meidrol ei wneud i mi?
12 Dw i'n mynd i gadw fy addewidion, O Dduw,a chyflwyno offrymau diolch i ti.
13 Ti wedi achub fy mywyd i,a chadw fy nhraed rhag llithro.Dw i'n gallu byw i ti, O Dduw,a mwynhau goleuni bywyd.