1 Gwaeddwch yn uchel i Dduw,holl bobl y byd!
2 Canwch gân i ddweud mor wych ydy e,a'i foli'n hyfryd.
3 Dwedwch wrth Dduw,“Mae dy weithredoedd di mor syfrdanol!Am dy fod ti mor rymus mae dy elynion yn crynu o dy flaen.
4 Mae'r byd i gyd yn dy addoli,ac yn canu mawl i ti!Maen nhw'n dy foli di ar gân!” Saib
5 Dewch i weld beth wnaeth Duw.Mae'r hyn wna ar ran pobl yn syfrdanol.
6 Trodd y môr yn dir sych,a dyma nhw'n cerdded drwy'r afon!Gadewch i ni ddathlu'r peth!
7 Mae e'n dal i deyrnasu yn ei nerth,ac mae'n cadw ei lygaid ar y cenhedloedd;felly peidiwch gwrthryfela a chodi yn ei erbyn. Saib
8 O bobloedd, bendithiwch ein Duw ni;gadewch i ni glywed pobl yn ei foli!
9 Fe sy'n ein cadw ni'n fyw;dydy e ddim wedi gadael i'n traed lithro.
10 Ti wedi ein profi ni, O Dduw,a'n puro ni fel arian mewn ffwrnais.
11 Ti wedi ein dal ni mewn rhwyd,a gwneud i ni ddioddef baich trwm.
12 Ti wedi gadael i bobl farchogaeth troson ni.Dŷn ni wedi bod trwy ddŵr a thân,ond ti wedi dod â ni trwy'r cwbl i brofi digonedd.
13 Dw i'n dod i dy deml ag offrymau llosgac yn cadw fy addewidion,
14 drwy wneud popeth wnes i addopan oeddwn i mewn trafferthion.
15 Dw i'n dod ag anifeiliaid wedi eu pesgi yn offrymau llosg –arogl hyrddod yn cael eu llosgi,teirw a bychod geifr yn cael eu haberthu. Saib
16 Dewch i wrando, chi sy'n addoli Duw,i mi ddweud wrthoch chi beth wnaeth e i mi.
17 Dyma fi'n gweiddi'n uchel arno am help– roeddwn i'n barod i'w foli.
18 Petawn i'n euog o feddwl yn ddrwg amdano,fyddai'r ARGLWYDD ddim wedi gwrando arna i.
19 Ond dyma Duw yn clywed;a gwrando ar fy ngweddi.
20 Mae Duw yn haeddu ei foli!Wnaeth e ddim diystyru fy ngweddi,na bod yn anffyddlon i mi.