1 Mae'r ARGLWYDD mor fawrac mae'n haeddu ei foli!Yn ninas ein Duwar ei fynydd cysegredig –
2 y copa hardd sy'n gwneud yr holl fyd yn hapus.Mynydd Seion, sydd fel copaon Saffon,ydy dinas y Brenin mawr.
3 Mae Duw yn byw yn ei chaerau,ac mae'n adnabyddus fel caer ddiogel.
4 Edrychwch! Mae brenhinoedd yn ffurfio cynghrair,ac yn dod i ymosod gyda'i gilydd.
5 Ond ar ôl ei gweld roedden nhw'n fud,wedi dychryn am eu bywydau,ac yn dianc mewn panig!
6 Roedden nhw'n crynu trwyddynt,ac yn gwingo fel gwraig yn geni plentyn,
7 neu longau Tarshish yn cael eu drylliogan wynt y dwyrain.
8 Dŷn ni bellach yn dystioni'r math o beth y clywson ni amdano;yn ninas yr ARGLWYDD holl-bwerus,sef dinas ein Duw –mae e wedi ei gwneud hi'n ddiogel am byth! Saib
9 O Dduw, dŷn ni wedi bod yn myfyrio yn dy demlam dy ofal ffyddlon.
10 O Dduw, rwyt ti'n enwog drwy'r byd i gyd,ac yn haeddu dy foli!Rwyt ti yn sicrhau cyfiawnder.
11 Mae mynydd Seion yn gorfoleddu!Mae pentrefi Jwda yn llawen,o achos beth wnest ti.
12 Cerdda o gwmpas Seion,dos reit rownd!Cyfra'r tyrau,
13 edrych yn fanwl ar ei waliau,a dos drwy ei chaerau,er mwyn i ti allu dweud wrth y genhedlaeth nesa.
14 Dyma sut un ydy Duw, ein Duw ni, bob amser.Bydd e'n ein harwain ni tra byddwn ni byw.