1 Dw i'n gwbl benderfynol, O Dduw.Dw i am ymroi yn llwyr i ganu mawl i ti!
2 Deffro, nabl a thelyn!Dw i am ddeffro'r wawr gyda'm cân!
3 Dw i'n mynd i ddiolch i ti, O ARGLWYDD, o flaen pawb!Dw i'n mynd i ganu mawl i ti o flaen pobl o bob cenedl!
4 Mae dy gariad di'n uwch na'r nefoedd,a dy ffyddlondeb di'n uwch na'r cymylau!
5 Dangos dy hun yn uwch na'r nefoedd, O Dduw,i dy ysblander gael ei weld drwy'r byd i gyd!
6 Defnyddia dy gryfder o'n plaid, ac ateb nier mwyn i dy rai annwyl gael eu hachub.
7 Mae Duw wedi addo yn ei gysegr:“Dw i'n mynd i fwynhau rhannu Sichem,a mesur dyffryn Swccoth.
8 Fi sydd piau Gileada Manasse hefyd.Effraim ydy fy helmed i,a Jwda ydy'r deyrnwialen.
9 Ond bydd Moab fel powlen ymolchi.Byddaf yn taflu fy esgid at Edom,ac yn gorfoleddu ar ôl gorchfygu Philistia!”
10 Pwy sy'n gallu mynd â fi i'r ddinas ddiogel?Pwy sy'n gallu fy arwain i Edom?
11 Onid ti, O Dduw?Ond rwyt wedi'n gwrthod ni!Wyt ti ddim am fynd allan gyda'n byddin, O Dduw?
12 Plîs, helpa ni i wynebu'r gelyn,achos dydy help dynol yn dda i ddim.
13 Gyda Duw gallwn wneud pethau mawrion –bydd e'n sathru ein gelynion dan draed!