1 O Dduw, achub fi!O ARGLWYDD, brysia i'm helpu!
2 Gwna i'r rhai sydd am fy lladd ideimlo embaras a chywilydd.Gwna i'r rhai sydd am wneud niwed i midroi yn ôl mewn cywilydd.
3 Gwna i'r rhai sy'n chwerthin ar fy mhendroi yn ôl mewn cywilydd.
4 Ond gwna i bawb sy'n dy geisio di ddathlu'n llawen!Gwna i'r rhai sy'n mwynhau dy weld ti'n achub ddweud,“Mae Duw mor fawr!”
5 Dw i mewn angen ac yn ddiamddiffyn;O Dduw, brysia ata i!Ti ydy'r un sy'n gallu fy helpu a'm hachub.O ARGLWYDD, paid oedi!