1 Dim ond ffŵl sy'n meddwl wrtho'i hun,“Dydy Duw ddim yn bodoli.”Mae pobl yn gwneud pob math o bethau ffiaidd.Does neb yn gwneud daioni!
2 Mae Duw yn edrych i lawr o'r nefoedd ar y ddynoliaethi weld os oes unrhyw un call;unrhyw un sy'n ceisio Duw.
3 Ond mae pawb wedi troi cefn arno,ac yn gwbl lygredig.Does neb yn gwneud daioni –dim un!
4 Ydyn nhw wir mor dwp? – yr holl rhai drwgsy'n llarpio fy mhobl fel taen nhw'n llowcio bwyd,a byth yn galw ar yr ARGLWYDD?
5 Byddan nhw'n dychryn am eu bywydau– fuodd erioed y fath beth o'r blaen –Bydd Duw yn chwalu esgyrn y rhai sy'n ymosod arnat ti.Byddi di'n codi cywilydd arnyn nhw,am fod Duw wedi eu gwrthod nhw.
6 O dw i eisiau i'r un sy'n achub Israel ddod o Seion!Pan fydd Duw yn troi'r sefyllfa rowndbydd Jacob yn gorfoleddu,a bydd Israel mor hapus!