Salm 40 BNET

Cân o fawl

I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.

1 Ar ôl disgwyl yn frwd i'r ARGLWYDD wneud rhywbeth,dyma fe'n troi ata i;roedd wedi gwrando arna i'n gweiddi am help.

2 Cododd fi allan o'r pwll lleidiog,a'r mwd trwchus.Rhoddodd fy nhraed ar graig,a gwneud yn siŵr fy mod i ddim yn baglu.

3 Roedd gen i gân newydd i'w chanu –cân o fawl i Dduw!Bydd llawer o bobl yn gweld beth wnaeth e,ac yn dod i drystio'r ARGLWYDD!

4 Mae'r un sy'n trystio'r ARGLWYDD wedi ei fendithio'n fawr!Dydy e ddim yn troi am help at boblsy'n brolio'u hunain ac yn dweud celwydd.

5 O ARGLWYDD fy Nuw, rwyt ti wedi gwneud cymaint! –gwneud pethau rhyfeddol i gyflawni dy bwrpas ynon ni.Does neb yn gallu dy rwystro di!Dw i eisiau sôn am y pethau hyn wrth bobl eraill,ond mae yna ormod ohonyn nhw i'w cyfrif!

6 Nid aberth ac offrwm rwyt ti eisiau;Mae hynny'n gwbl amlwg i mi!Dim am aberthau i'w llosgi ac offrymau dros bechod rwyt ti'n gofyn.

7-8 Felly dyma fi'n dweud,“O Dduw, dw i'n dod i wneud beth rwyt ti eisiau –fel mae wedi ei ysgrifennu amdana i yn y sgrôl.”Mae dy ddysgeidiaeth di yn rheoli fy mywyd i.

9 Dw i wedi dweud wrth y gynulleidfa fawr am dy gyfiawnder!Dw i wedi dal dim yn ôl!Ti'n gwybod hynny, O ARGLWYDD.

10 Wnes i ddim cadw'r peth i mi fy hun;ond dweud wrth bawb dy fod ti'n Dduw ffyddlon ac yn achub!Dw i ddim wedi cadw'n dawel am dy ofal ffyddlon di.

11 Tyrd, ARGLWYDD, paid atal dy dosturi oddi wrtho i.Dy ofal ffyddlon di fydd yn fy amddiffyn i bob amser.

12 Mae peryglon di-ben-draw o'm cwmpas i ym mhobman.Mae fy mhechodau wedi fy nal i.Maen nhw wedi fy nallu!Mae mwy ohonyn nhw nag sydd o wallt ar fy mhen!Dw i wedi dod i ben fy nhennyn!

13 Plîs, ARGLWYDD, achub fi!O ARGLWYDD, brysia i'm helpu!

14 Gwna i'r rhai sydd am fy lladd ideimlo embaras a chywilydd.Gwna i'r rhai sydd am wneud niwed i midroi yn ôl mewn cywilydd.

15 Gwna i'r rhai sy'n chwerthin ar fy mhen igael eu cywilyddio a'u dinistrio.

16 Ond gwna i bawb sy'n dy geisio di ddathlu'n llawen!Gwna i'r rhai sy'n mwynhau dy weld ti'n achub ddweud,“Mae'r ARGLWYDD mor fawr!”

17 Dw i mewn angen ac yn ddiamddiffyn,ond mae gan yr ARGLWYDD ei fwriadau ar fy nghyfer.Ti ydy'r un sy'n gallu fy helpu a'm hachub.O fy Nuw, paid oedi!