1 Pam mae'r cenhedloedd yn gwrthryfela?Pam mae pobloedd yn gwastraffu eu hamser yn cynllwynio?
2 Mae brenhinoedd daearol yn gwneud safiad;a'r llywodraethwyr yn dod at ei gilydd i ymladdyn erbyn yr ARGLWYDD a'r un mae wedi'i ddewis, y brenin.
3 “Gadewch i ni dorri'n rhydd o'u cadwynau,a thaflu'r rhaffau sy'n ein rhwymo i ffwrdd!”
4 Mae'r Un sydd ar ei orsedd yn y nefoedd yn chwerthin –maen nhw'n destun sbort i'r ARGLWYDD!
5 Wedyn mae'n eu dychryn am ei fod mor ffyrnig,ac yn dweud wrthyn nhw'n ddig:
6 “Dw i wedi gosod fy mrenin yn Seion,fy mynydd cysegredig!”
7 Gadewch i mi ddweud beth mae'r ARGLWYDD wedi ei ddatgan:Dwedodd wrtho i,“Ti ydy fy mab i;heddiw des i yn Dad i ti.
8 Dim ond i ti ofyn,cei etifeddu'r cenhedloedd.Bydd dy ystad di yn ymestyn i ben draw'r byd.
9 Byddi'n eu malu â phastwn haearnyn ddarnau mân, fel darn o grochenwaith.”
10 Felly, chi frenhinoedd, byddwch ddoeth;dysgwch eich gwers, chi arweinwyr daearol!
11 Gwasanaethwch yr ARGLWYDD gyda pharch;byddwch yn falch ei fod wedi'ch dychryn chi!
12 Plygwch, a thalu teyrnged i'r mab;neu bydd yn digio a cewch eich difapan fydd yn dangos mor ddig ydy e.Mae pawb sy'n troi ato am locheswedi eu bendithio'n fawr!