1 Wrth afonydd Babilon,dyma ni'n eistedd ac yn wylowrth gofio am Seion.
2 Dyma ni'n hongian ein telynauar y coed poplys yno.
3 Roedd y rhai oedd yn ein dal ni'n gaeth eisiau i ni ganu;a'n poenydwyr yn ein piwsio i'w difyrru:“Canwch un o ganeuon Seion i ni!”
4 Sut allen ni ganu caneuon yr ARGLWYDDar dir estron?
5 Os anghofia i di, Jerwsalem,boed i'm llaw dde gael ei pharlysu.
6 Boed i'm tafod lynu wrth dop fy ngegpetawn i'n anghofio amdanat ti,a phetai Jerwsalem yn ddim pwysicachna phopeth arall sy'n rhoi pleser i mi.
7 Cofia, O ARGLWYDD, beth wnaeth pobl Edomy diwrnod hwnnw pan syrthiodd Jerwsalem.Roedden nhw'n gweiddi, “Chwalwch hi!Chwalwch hi i'w sylfeini!”
8 Babilon hardd, byddi dithau'n cael dy ddinistrio!Bydd yr un fydd yn talu'n ôl i tiac yn dy drin fel gwnest ti'n trin ni,yn cael ei fendithio'n fawr!
9 Bydd yr un fydd yn gafael yn dy blant diac yn eu hyrddio nhw yn erbyn y creigiauyn cael ei fendithio'n fawr!