Salm 5 BNET

Gweddi yn y bore

I'r arweinydd cerdd: Salm i gyfeiliant ffliwt. Salm Dafydd.

1 Gwranda ar beth dw i'n ddweud, O ARGLWYDD;ystyria yn ofalus beth sy'n fy mhoeni i.

2 Cymer sylw ohono i'n gweiddi am help,oherwydd arnat ti dw i'n gweddïofy Mrenin a'm Duw.

3 Gwranda arna i ben bore, O ARGLWYDD;Dw i'n pledio fy achos wrth iddi wawrio,ac yn disgwyl am ateb.

4 Dwyt ti ddim yn Dduw sy'n mwynhau drygioni;dydy pobl ddrwg ddim yn gallu aros yn dy gwmni.

5 Dydy'r rhai sy'n brolio ddim yn gallu sefyll o dy flaen di;ti'n casáu'r rhai sy'n gwneud drwg.

6 Byddi'n dinistrio'r rhai sy'n dweud celwydd;mae'n gas gen ti bobl sy'n dreisgar ac yn twyllo, O ARGLWYDD.

7 Ond dw i'n gallu mynd i mewn i dy dŷ diam fod dy gariad di mor anhygoel.Plygaf i addoli mewn rhyfeddod yn dy deml sanctaidd.

8 O ARGLWYDD, arwain fi i wneud beth sy'n iawn.Mae yna rai sy'n fy ngwylio i ac am ymosod arna i;plîs symud y rhwystrau sydd ar y ffordd o'm blaen i.

9 Achos dŷn nhw ddim yn dweud y gwir;eu hawydd dyfnaf ydy dinistrio pobl!Mae eu geiriau'n drewi fel bedd agored;a'u tafodau slic yn gwneud dim byd ond seboni.

10 Dinistria nhw, O Dduw!Gwna i'w cynlluniau nhw eu baglu!Tafla nhw i ffwrdd am eu bod wedi tynnu'n groes gymaint!Maen nhw wedi gwrthryfela yn dy erbyn di!

11 Ond gad i bawb sy'n troi atat tiam loches fod yn llawen!Gad iddyn nhw orfoleddu am byth!Cysgoda drostyn nhw,er mwyn i'r rhai sy'n caru dy enw di gael dathlu.

12 Oherwydd byddi di'n bendithio'r rhai cyfiawn, O ARGLWYDD;bydd dy ffafr fel tarian fawr o'u cwmpas nhw.