1 Dewch! Bendithiwch yr ARGLWYDD,bawb ohonoch chi sy'n gwasanaethu'r ARGLWYDD,ac yn sefyll drwy'r nos yn nheml yr ARGLWYDD.
2 Codwch eich dwylo, a'u hestyn allan tua'r cysegr!Bendithiwch yr ARGLWYDD!
3 Boed i'r ARGLWYDD, sydd wedi creu y nefoedd a'r ddaear,eich bendithio chi o Seion!