1 Fel hydd yn brefu am ddiod o ddŵr,dw i'n hiraethu go iawn amdanat ti, O Dduw.
2 Mae gen i syched am Dduw, y Duw byw;O, pryd ga i fynd eto i sefyll o'i flaen yn ei deml?
3 Dw i'n methu bwyta, ac yn crïo nos a dydd,wrth iddyn nhw wawdio'n ddiddiwedd,“Ble mae dy Dduw di, felly?”
4 Wrth gofio hyn i gyd dw i'n teimlo mor drist!Cofio mynd gyda'r dyrfa i dŷ Dduw;gweiddi a moli'n llawen gyda phawb arallwrth ddathlu'r Ŵyl!
5 F'enaid, pam rwyt ti'n teimlo mor isel?Pam wyt ti mor anniddig?Rho dy obaith yn Nuw!Bydda i'n moli Duw etoam iddo ymyrryd i'm hachub i!
6 O fy Nuw, dw i'n teimlo mor isel.Felly dw i am feddwl amdanat titra dw i'n ffoadur yma.Yma mae'r Iorddonen yn tardduo fryniau Hermon a Mynydd Misar;
7 lle mae sŵn dwfn y rhaeadrauyn galw ar ei gilydd.Mae fel petai tonnau mawr dy fôr yn llifo trosta i!
8 Ond dw i'n profi gofal ffyddlon yr ARGLWYDD drwy'r dydd,ac yn y nos dw i'n canu cân o fawl iddoac yn gweddïo ar y Duw byw.
9 Dw i'n gofyn i Dduw, fy nghraig uchel,“Pam wyt ti'n cymryd dim sylw ohono i?Pam mae'n rhaid i mi gerdded o gwmpas yn drist,am fod y gelynion yn fy ngham-drin i?”
10 Mae'r rhai sy'n fy nghasáu i yn gwawdio;ac mae'n brathu i'r bywwrth iddyn nhw wawdio'n ddiddiwedd,“Ble mae dy Dduw di, felly?”
11 F'enaid, pam wyt ti'n teimlo mor isel?Pam wyt ti mor anniddig?Rho dy obaith yn Nuw!Bydda i'n moli Duw etoam iddo ymyrryd i'm hachub i!