Salm 55 BNET

Gweddi un wedi ei fradychu gan ei ffrind

I'r arweinydd cerdd: Mascîl i gyfeiliant offerynnau llinynnol. Salm Dafydd.

1 Gwrando ar fy ngweddi, O Dduw;paid diystyru fi'n galw am dy help!

2 Gwranda arna i, ac ateb fi.Mae'r sefyllfa yma yn fy llethu;dw i wedi drysu'n lân!

3 Mae'r gelyn yn gweiddi arna i,ac yn bygwth pob math o ddrwg.Dŷn nhw ond eisiau creu helyntac ymosod arna i yn wyllt.

4 Mae fy nghalon yn rasio tu mewn i mi.Mae ofn marw wedi mynd yn drech na mi.

5 Mae ofn a dychryn wedi fy llethu i –dw i'n methu stopio crynu!

6 “O na fyddai gen i adenydd fel colomen,i mi gael hedfan i ffwrdd a gorffwys!

7 Byddwn i'n hedfan yn bell i ffwrdd,ac yn aros yn yr anialwch. Saib

8 Byddwn i'n brysio i ffwrdd i guddio,ymhell o'r storm a'r cythrwfl i gyd.”

9 Dinistria nhw ARGLWYDD;a drysu eu cynlluniau nhw!Dw i'n gweld dim byd ond trais a chweryla yn y ddinas.

10 Mae milwyr yn cerdded ei waliau i'w hamddiffyn ddydd a nos,ond y tu mewn iddi mae'r drwg go iawn.

11 Pobl yn bygwth ei gilydd ym mhobman –dydy gormes a thwyll byth yn gadael ei strydoedd!

12 Nid y gelyn sy'n fy ngwawdio i– gallwn oddef hynny;Nid y gelyn sy'n fy sarhau i– gallwn guddio oddi wrth hwnnw;

13 Na! Ti, sy'n ddyn fel fi,yn gyfaill agos; fy ffrind i!

14 Roedd dy gwmni di mor felyswrth i ni gerdded gyda'n gilydd yn nhŷ Dduw.

15 Gad i'r gelynion yn sydyn gael eu taro'n farw!Gad i'r bedd eu llyncu nhw'n fyw!Does dim ond drygioni ble bynnag maen nhw!

16 Ond dw i'n mynd i alw ar Dduw,a bydd yr ARGLWYDD yn fy achub i.

17 Dw i'n dal ati i gwyno a phledio,fore, nos, a chanol dydd.Dw i'n gwybod y bydd e'n gwrando!

18 Bydd e'n dod â fi allan yn saffo ganol yr ymladd,er bod cymaint yn fy erbyn i.

19 Bydd Duw, sy'n teyrnasu o'r dechrau cyntaf,yn gwrando arna i ac yn eu trechu nhw! Saib Maen nhw'n gwrthod newid eu ffyrdd,a dangos parch tuag at Dduw.

20 Ond am fy ffrind wnaeth droi yn fy erbyn i,torri ei air wnaeth e.

21 Roedd yn seboni gyda'i eiriau,ond ymosod oedd ei fwriad.Roedd ei eiriau yn dyner fel olew,ond cleddyfau noeth oedden nhw go iawn.

22 Rho dy feichiau trwm i'r ARGLWYDD;bydd e'n edrych ar dy ôl di.Wnaiff e ddim gadael i'r cyfiawn syrthio.

23 O Dduw, byddi di'n taflu'r rhai drwg i bwll dinistr –Bydd y rhai sy'n lladd ac yn twyllo yn marw'n ifanc.Ond dw i'n dy drystio di.