1 Chi rai cyfiawn, canwch yn llawen i'r ARGLWYDD!Mae'n beth da i'r rhai sy'n byw'n gywir ei foli.
2 Molwch yr ARGLWYDD gyda'r delyn;canwch iddo ar yr offeryn dectant.
3 Canwch gân newydd iddoi gyfeiliant hyfryd a bwrlwm llawenydd.
4 Achos mae beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud yn iawn;ac mae'r cwbl mae'n ei wneud yn gywir.
5 Mae e'n caru beth sy'n deg ac yn gyfiawn;ac mae ei ofal ffyddlon i'w weld drwy'r byd i gyd.
6 Dwedodd y gair, a dyma'r awyr yn cael ei chreu.Anadlodd, a daeth y sêr a'r planedau i fod.
7 Mae e'n casglu dŵr y moroedd yn bentwr,ac yn ei gadw yn ei stordai.
8 Dylai'r byd i gyd barchu'r ARGLWYDD!Dylai pob person byw ei ofni!
9 Siaradodd, a digwyddodd y peth;rhoddodd orchymyn, a dyna fu.
10 Mae'r ARGLWYDD yn drysu cynlluniau'r cenhedloedd,ac yn rhwystro bwriadau pobloedd.
11 Beth mae'r ARGLWYDD yn ei fwriadu sy'n aros.Mae ei gynlluniau e yn para ar hyd y cenedlaethau.
12 Mae'r genedl sydd a'r ARGLWYDD yn Dduw iddiwedi ei bendithio'n fawr,sef y bobl hynny mae wedi eu dewis yn eiddo iddo'i hun.
13 Mae'r ARGLWYDD yn edrych i lawr o'r nefoedd;ac mae'n gweld y ddynoliaeth gyfan.
14 Mae'n syllu i lawr o'i orseddar bawb sy'n byw ar y ddaear.
15 Mae wedi gwneud pawb yn wahanol,ac mae'n sylwi ar bopeth maen nhw'n ei wneud.
16 Nid byddin fawr sy'n achub y brenin;na'i gryfder ei hun sy'n achub milwr dewr.
17 Dydy march rhyfel ddim yn gallu ennill brwydr;er ei fod mor gryf, dydy e ddim yn gallu achub.
18 Yr ARGLWYDD sy'n gofalu am ei bobl,sef y rhai sy'n credu ei fod e'n ffyddlon.
19 Fe sy'n eu harbed nhw rhag cael eu lladd,ac yn eu cadw nhw'n fyw mewn cyfnod o newyn.
20 Mae'n gobaith ni yn yr ARGLWYDD!Fe sy'n ein helpu ni, ac yn darian i'n hamddiffyn.
21 Fe sy'n ein gwneud ni mor llawen!Dŷn ni'n credu yn ei enw sanctaidd e.
22 O ARGLWYDD, gad i ni brofi dy haelioni,gan ein bod wedi credu ynot ti.