Salm 45 BNET

Priodas y brenin

I'r arweinydd cerdd: Mascîl. Ar yr alaw "Y Lilïau" gan Feibion Cora. Cân serch.

1 Mae gen i destun cerdd hyfryd yn fy ysbrydoli.Dw i am adrodd fy marddoniaeth i'r brenin;Mae fy nhafod fel ysgrifbin yn llaw awdur profiadol.

2 Ti ydy'r dyn mwya golygus sydd,ac mae dy eiriau mor garedig.Mae'n dangos fod Duw wedi dy fendithio di bob amser.

3 Gwisga dy gleddyf ar dy glun, O ryfelwr!Dangos dy ysblander a dy fawredd.

4 Dangos dy fawredd! Dos allan i ennill buddugoliaeth!Marchoga dros y gwir a thros gyfiawnder.Trwy dy nerth byddi'n cyflawni pethau rhyfeddol!

5 Bydd dy saethau miniogyn trywanu calonnau dy elynion,a bydd pobloedd yn syrthio wrth dy draed.

6 Byddi di, O Dduw, yn frenin ar yr orsedd am byth;a byddi di'n teyrnasu mewn ffordd sy'n deg.

7 Ti'n caru beth sy'n iawn ac yn casáu drygioni;felly mae Duw, ie dy Dduw di, wedi dy eneinio dia thywallt olew llawenydd arnat ti fwy na neb arall.

8 Mae arogl hyfryd myrr, aloes a casiaar dy ddillad i gyd.Mae offerynnau llinynnol o balasau iforiyn cael eu canu i dy ddifyrru di.

9 Mae tywysogesau ymhlith dy westeion,ac mae dy briodferch yn sefyll wrth dy ochr,yn gwisgo tlysau o aur coeth Offir.

10 Clyw, o dywysoges!Gwrando'n astud!Anghofia dy bobl a dy deulu.

11 Gad i'r brenin gael ei hudo gan dy harddwch!Fe ydy dy feistr di bellach, felly ymostwng iddo.

12 Bydd pobl gyfoethog Tyrus yn ceisio dy ffafr,ac yn dod ag anrhegion i ti.

13 Mae'r dywysoges yn anhygoel o hardd,a'i gwisg briodas wedi ei brodio gyda gwaith aur manwl.

14 Mae hi'n cael ei harwain at y brenin,ac mae gosgordd o forynion yn ei dilyn,i'w chyflwyno i ti.

15 Maen nhw'n llawn bwrlwm wrth gael eu harwaini mewn i balas y brenin.

16 Bydd dy feibion yn dy olynu yn llinach dy hynafiaid,ac yn cael eu gwneud yn dywysogion yn y wlad.

17 Bydda i'n coffáu dy enw di ar hyd y cenedlaethau,a bydd pobloedd yn dy ganmol di am byth bythoedd.