Salm 136 BNET

Diolch am ddaioni'r ARGLWYDD

1 Diolchwch i'r ARGLWYDD!Mae e mor dda aton ni!Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

2 Rhowch ddiolch i'r Duw sy'n uwch na'r duwiau i gyd!Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

3 Rhowch ddiolch i Arglwydd yr Arglwyddi!Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

4 Fe ydy'r unig un sydd wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

5 Fe sydd wedi creu y nefoedd drwy ei allu.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

6 Fe sydd wedi lledu'r ddaear dros y dyfroedd.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

7 Fe sydd wedi gwneud y goleuadau mawrion.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

8 Yr haul i reoli'r dydd.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

9 a'r lleuad a'r sêr i reoli'r nos.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

10 Fe wnaeth daro plant hynaf yr Aifft,Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

11 a dod ag Israel allan o'u canol nhw,Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

12 gyda nerth a chryfder rhyfeddol.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

13 Fe wnaeth hollti'r Môr Coch,Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

14 a gadael i Israel fynd trwy ei ganol,Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

15 Fe wnaeth daflu'r Pharo a'i fyddin i'r Môr Coch,Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

16 ac arwain ei bobl drwy'r anialwch.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

17 Fe wnaeth daro brenhinoedd cryfion i lawr,Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

18 a lladd brenhinoedd enwog –Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

19 Sihon, brenin yr Amoriaid,Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

20 ac Og, brenin Bashan.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

21 Rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth –Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

22 yn etifeddiaeth i bobl Israel, sy'n ei wasanaethu.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

23 Cofiodd amdanon ni pan oedden ni'n isel,Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

24 a'n hachub ni o afael ein gelynion,Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

25 Fe sy'n rhoi bwyd i bob creadur byw,Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

26 Rhowch ddiolch i'r Duw sy'n y nefoedd!Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!