1 Boed i'r ARGLWYDD dy ateb pan wyt mewn trafferthion;boed i Dduw Jacob dy gadw di'n saff.
2 Boed iddo anfon help o'r cysegr,a rhoi nerth i ti o Seion.
3 Boed iddo gofio dy holl offrymau,a derbyn dy offrymau sydd i'w llosgi. Saib
4 Boed iddo roi i ti beth wyt ti eisiau,a dod â dy gynlluniau di i gyd yn wir.
5 Wedyn byddwn yn bloeddio'n llawen am dy fod wedi ennill y frwydr!Byddwn yn codi baner i enw ein Duw.Boed i'r ARGLWYDD roi i ti bopeth wyt ti'n gofyn amdano!
6 Dw i'n gwybod y bydd yr ARGLWYDDyn achub ei eneiniog, y brenin.Bydd yn ei ateb o'r cysegr yn y nefoeddac yn rhoi buddugoliaeth ryfeddol iddo, trwy ei nerth.
7 Mae rhai yn brolio yn eu cerbydau rhyfel a'u meirch,ond dŷn ni'n brolio'r ARGLWYDD ein Duw.
8 Byddan nhw'n syrthio ar lawr,ond byddwn ni'n sefyll yn gadarn.
9 Bydd yr ARGLWYDD yn achub y brenin.Bydd yn ateb pan fyddwn ni'n galw arno.