1 “Maen nhw wedi ymosod arna i lawer gwaithers pan oeddwn i'n ifanc,”gall Israel ddweud.
2 “Maen nhw wedi ymosod arna i lawer gwaithers pan oeddwn i'n ifanc,ond dŷn nhw ddim wedi fy nhrechu i.”
3 Mae dynion wedi aredig ar fy nghefnac agor cwysi hirion.
4 Ond mae'r ARGLWYDD yn ffyddlon,ac wedi torri'r rhaffau sy'n tynnu aradr y rhai drwg.
5 Gwna i bawb sy'n casáu Seiongael eu cywilyddio a'u gyrru yn ôl!
6 Gwna nhw fel glaswellt ar ben toyn gwywo cyn ei dynnu;
7 dim digon i lenwi dwrn yr un sy'n medi,na breichiau'r un sy'n casglu'r ysgubau!
8 A fydd y rhai sy'n pasio heibio ddim yn dweud,“Bendith yr ARGLWYDD arnoch chi!Bendith arnoch chi yn enw'r ARGLWYDD.”