1 Holl bobloedd y byd, curwch ddwylo!Gwaeddwch yn llawen wrth addoli Duw!
2 Mae'r ARGLWYDD Goruchaf yn Dduw i'w ryfeddu,ac yn Frenin mawr dros y byd i gyd.
3 Mae'n gwneud i bobloedd ymostwng i ni;ni sy'n eu rheoli nhw.
4 Dewisodd dir yn etifeddiaeth i ni –tir i Jacob, y bobl mae wedi eu caru, ymfalchïo ynddo. Saib
5 Mae Duw wedi esgyn i'w orsedd, a'r dyrfa'n gweiddi'n llawen.Aeth yr ARGLWYDD i fyny, a'r corn hwrdd yn seinio!
6 Canwch fawl i Dduw, canwch!Canwch fawl i'n brenin ni, canwch!
7 Ydy, mae Duw yn frenin dros y byd i gyd;Canwch gân hyfryd iddo!
8 Mae Duw yn teyrnasu dros y cenhedloedd!Mae e'n eistedd ar ei orsedd sanctaidd!
9 Mae tywysogion y bobloedd wedi ymgasglugyda phobl Duw Abraham.Mae awdurdod Duw dros lywodraethwyr y byd;Mae e ymhell uwch eu pennau nhw i gyd!