1 O Dduw, rwyt ti wedi'n gwrthod nia bylchu ein hamddiffyn.Buost yn ddig gyda ni.Plîs adfer ni!
2 Gwnaethost i'r tir grynu,a'i hollti'n agored.Selia'r holltau, cyn i'r cwbl syrthio!
3 Ti wedi rhoi amser caled i dy bobl;a rhoi gwin i'w yfed sydd wedi'n gwneud ni'n chwil.
4 Coda faner i'r rhai sy'n dy ddilynallu dianc ati rhag saethau'r bwa. Saib
5 Defnyddia dy gryfder o'n plaid, ac ateb nier mwyn i dy rai annwyl gael eu hachub.
6 Mae Duw wedi addo yn ei gysegr:“Dw i'n mynd i fwynhau rhannu Sichem,a mesur dyffryn Swccoth.
7 Fi sydd piau Gileada Manasse hefyd.Effraim ydy fy helmed i,a Jwda ydy'r deyrnwialen.
8 Ond bydd Moab fel powlen ymolchi.Byddaf yn taflu fy esgid at Edom,ac yn dathlu ar ôl gorchfygu Philistia!”
9 Pwy sy'n gallu mynd â fi i'r ddinas ddiogel?Pwy sy'n gallu fy arwain i Edom?
10 Onid ti, O Dduw?Ond rwyt wedi'n gwrthod ni!Wyt ti ddim am fynd allan gyda'n byddin, O Dduw?
11 Plîs, helpa ni i wynebu'r gelyn,achos dydy help dynol yn dda i ddim.
12 Gyda Duw gallwn wneud pethau mawrion –bydd e'n sathru ein gelynion dan draed!