1 Dw i'n diolch i ti o waelod calon,ac yn canu mawl i ti o flaen y duwiau!
2 Dw i'n ymgrymu i gyfeiriad dy deml sanctaiddac yn moli dy enw am dy gariad a dy ffyddlondeb.Mae dy enw a dy addewid di yn well na phopeth sy'n bod.
3 Dyma fi'n galw, a dyma ti'n ateb,fy ysbrydoli, a rhoi hyder i mi.
4 Bydd brenhinoedd y byd i gyd yn diolch i ti, O ARGLWYDD,pan fyddan nhw'n clywed y cwbl rwyt ti'n ei addo.
5 Byddan nhw'n canu am weithredoedd yr ARGLWYDD:“Mae dy ysblander di, ARGLWYDD, mor fawr!”
6 Er bod yr ARGLWYDD mor fawr,mae'n gofalu am y gwylaidd;ac mae'n gwybod o bell am y balch.
7 Pan dw i mewn trafferthion,rwyt yn fy achub o afael y gelyn gwyllt;ti'n estyn dy law gref i'm helpu.
8 Bydd yr ARGLWYDD yn talu'n ôl ar fy rhan i!O ARGLWYDD, mae dy haelioni yn ddiddiwedd!Paid troi cefn ar dy bobl, gwaith dy ddwylo!