Salm 78 BNET

Duw a'i bobl

Mascîl gan Asaff.

1 Gwrandwch arna i'n eich dysgu, fy mhobl!Trowch i wrando ar beth dw i'n ddweud.

2 Dw i'n mynd i adrodd straeon,a dweud am bethau o'r gorffennol sy'n ddirgelwch;

3 pethau glywson ni, a'u dysguam fod ein hynafiaid wedi adrodd y stori.

4 A byddwn ni'n eu rhannu gyda'n plant,ac yn dweud wrth y genhedlaeth nesa.Dweud fod yr ARGLWYDD yn haeddu ei foli!Son am ei nerth a'r pethau rhyfeddol a wnaeth.

5 Rhoddodd ei reolau i bobl Jacob,a sefydlu ei gyfraith yn Israel.Gorchmynnodd i'n hynafiaideu dysgu i'w plant,

6 er mwyn i'r genhedlaeth nesaf wybodsef y plant sydd heb eu geni eto –iddyn nhw, yn eu tro, ddysgu eu plant.

7 Iddyn nhw ddysgu trystio Duwa peidio anghofio'r pethau mawr mae'n eu gwneud.Iddyn nhw fod yn ufudd i'w orchmynion,

8 yn lle bod fel eu hynafiaidyn tynnu'n groes ac yn ystyfnig;cenhedlaeth oedd yn anghyson,ac yn anffyddlon i Dduw.

9 Fel dynion Effraim, bwasaethwyr gwych,yn troi cefn yng nghanol y frwydr.

10 Wnaethon nhw ddim cadw eu hymrwymiad i Dduw,na gwrando ar ei ddysgeidiaeth.

11 Roedden nhw wedi anghofio'r cwbl wnaeth e,a'r pethau rhyfeddol oedd wedi ei ddangos iddyn nhw.

12 Gwnaeth bethau rhyfeddol o flaen eu hynafiaidyn yr Aifft, ar wastatir Soan.

13 Holltodd y môr a'u harwain nhw trwyddo;a gwneud i'r dŵr sefyll i fyny fel wal.

14 Eu harwain gyda chwmwl yn ystod y dydd,ac yna tân disglair drwy'r nos.

15 Holltodd greigiau yn yr anialwch,a rhoi digonedd o ddŵr iddyn nhw i'w yfed.

16 Nentydd yn arllwys o'r graig;dŵr yn llifo fel afonydd!

17 Ond roedden nhw'n dal i bechu yn ei erbyn,a herio'r Duw Goruchaf yn yr anialwch.

18 Roedden nhw'n fwriadol yn rhoi Duw ar brawftrwy hawlio'r bwyd roedden nhw'n crefu amdano.

19 Roedden nhw'n sarhau Duw trwy ofyn,“Ydy'r gallu gan Dduw i wneud hyn?All e baratoi gwledd i ni yn yr anialwch?

20 Mae'n wir ei fod wedi taro'r graig,a bod dŵr wedi pistyllio allana llifo fel afonydd.Ond ydy e'n gallu rhoi bwyd i ni hefyd?Ydy e'n gallu rhoi cig i'w bobl?”

21 Roedd yr ARGLWYDD yn gynddeiriog pan glywodd hyn.Roedd fel tân yn llosgi yn erbyn pobl Jacob.Roedd wedi gwylltio'n lân gydag Israel,

22 am eu bod nhw heb drystio Duw,a chredu ei fod yn gallu achub.

23 Ond rhoddodd orchymyn i'r awyr uwch eu pennau,ac agorodd ddrysau'r nefoedd.

24 Glawiodd fanna iddyn nhw i'w fwyta;rhoddodd ŷd o'r nefoedd iddyn nhw!

25 Cafodd y bobl fwyta bara'r angylion!Roedd digonedd o fwyd i bawb.

26 Yna gwnaeth i wynt y dwyrain chwythu'n yr awyr,ac arweiniodd wynt y de drwy ei nerth.

27 Roedd hi'n glawio cig fel llwch,adar yn hedfan – cymaint â'r tywod ar lan y môr!

28 Gwnaeth iddyn nhw ddisgyn yng nghanol y gwersyll,o gwmpas y babell lle roedd e'i hun yn aros.

29 Felly cawson nhw fwy na digon i'w fwyta;rhoddodd iddyn nhw'r bwyd roedden nhw'n crefu amdano.

30 Ond cyn iddyn nhw orffen bwyta,pan oedd y bwyd yn dal yn eu cegau,

31 dyma Duw yn dangos mor ddig oedd e!Lladdodd y rhai cryfaf ohonyn nhw,a tharo i lawr rai ifanc Israel.

32 Ond hyd yn oed wedyn roedden nhw'n dal i bechu!Doedden nhw ddim yn credu yn ei allu rhyfeddol.

33 Yn sydyn roedd Duw wedi dod a'u dyddiau i ben;daeth y diwedd mewn trychineb annisgwyl.

34 Pan oedd Duw yn eu taro, dyma nhw'n ei geisio;roedden nhw'n troi'n ôl ato a hiraethu amdano.

35 Dyma nhw'n cofio mai Duw oedd eu Craigac mai'r Duw Goruchaf oedd wedi eu rhyddhau nhw.

36 Ond doedd eu geiriau'n ddim byd ond rhagrith;roedden nhw'n dweud celwydd.

37 Doedden nhw ddim wir o ddifrif;nac yn ffyddlon i'w hymrwymiad.

38 Ac eto, mae Duw mor drugarog!Roedd yn maddau iddyn nhw am fod mor wamal;wnaeth e ddim eu dinistrio nhw.Roedd yn ffrwyno ei deimladau dro ar ôl tro,yn lle arllwys ei ddicter ffyrnig arnyn nhw.

39 Roedd yn cofio mai pobl feidrol oedden nhw;chwa o wynt yn pasio heibio heb ddod yn ôl.

40 Roedden nhw wedi gwrthryfela mor aml yn yr anialwch,a peri gofid iddo yn y tir diffaith.

41 Rhoi Duw ar brawf dro ar ôl tro,a digio Un Sanctaidd Israel.

42 Anghofio beth wnaeth epan ollyngodd nhw'n rhydd o afael y gelyn.

43 Roedd wedi dangos iddyn nhw yn yr Aifft,a gwneud pethau rhyfeddol ar wastatir Soan:

44 Trodd yr afonydd yn waed,fel eu bod nhw'n methu yfed y dŵr.

45 Anfonodd haid o bryfed i'w pigoa llyffaint i ddifetha'r wlad.

46 Tarodd eu cnydau â phla o lindys,ffrwyth y tir â phla o locustiaid.

47 Dinistriodd y gwinwydd â chenllysg,a'r coed sycamorwydd â rhew.

48 Trawodd y cenllysg eu gwartheg,a'r mellt eu preiddiau.

49 Dangosodd ei fod yn ddig gyda nhw,yn wyllt gynddeiriog! Tarodd nhw â thrybini,ac anfon criw o angylion dinistriol

50 i agor llwybr i'w lid.Wnaeth e ddim arbed eu bywydau,ond anfon haint i'w dinistrio nhw.

51 Trawodd y mab hynaf ym mhob teulu yn yr Aifft,ffrwyth cyntaf eu cyfathrach ym mhebyll Cham.

52 Yna aeth â'i bobl allan fel defaid,a'u harwain fel praidd yn yr anialwch.

53 Arweiniodd nhw'n saff a heb ofn;ond cafodd y gelynion eu llyncu yn y môr.

54 Yna daeth â nhw i'w dir cysegredig,i'r mynydd oedd wedi ei gymryd trwy rym.

55 Gyrrodd allan genhedloedd o'u blaenau,a rhannu'r tir rhyngddyn nhw;gwnaeth i lwythau Israel setlo yn eu lle.

56 Ond dyma nhw'n rhoi'r Duw Goruchaf ar brawf eto!Gwrthryfela yn ei erbyn,a pheidio gwneud beth oedd yn ei ofyn.

57 Dyma nhw'n troi eu cefnau arno,a bod yn anffyddlon fel eu hynafiaid;roedden nhw fel bwa llac – yn dda i ddim!

58 Roedd eu hallorau paganaidd yn ei ddigio;a'u delwau metel yn ei wneud yn eiddigeddus.

59 Clywodd Duw nhw wrthi, ac roedd yn gynddeiriog;a gwrthododd Israel yn llwyr.

60 Trodd gefn ar ei dabernacl yn Seilo,sef y babell lle roedd yn byw gyda'i bobl.

61 Gadawodd i'w Arch gael ei dal;rhoddodd ei ysblander yn nwylo'r gelyn!

62 Gadawodd i'w bobl gael eu lladd gan y cleddyf;roedd wedi gwylltio gyda'i etifeddiaeth.

63 Daeth tân i ddinistrio'r dynion ifanc,ac roedd merched ifanc yn marw cyn priodi.

64 Trawodd y cleddyf eu hoffeiriaid i lawr,a doedd dim amser i'r gweddwon alaru.

65 Ond yna dyma'r Meistr yn deffro!Roedd fel milwr gwallgo wedi cael gormod o win.

66 Gyrrodd ei elynion yn eu holaua chodi cywilydd arnyn nhw am byth.

67 Ond yna gadawodd dir Joseff;a pheidio dewis llwyth Effraim.

68 Dewisodd lwyth Jwda,a Mynydd Seion mae mor hoff ohono.

69 Cododd ei deml yn uchel fel y nefoedd,ac yn ddiogel fel y ddaear, sydd wedi ei sefydlu am byth.

70 Dewisodd Dafydd, ei was,a'i gymryd oddi wrth y corlannau;

71 o fod yn gofalu am y defaidi ofalu am ei bobl Jacob,sef Israel, ei etifeddiaeth.

72 Gofalodd amdanyn nhw gydag ymroddiad llwyr;a'u harwain mor fedrus.