Salm 50 BNET

Addoli'r Duw go iawn

Salm gan Asaff.

1 Mae Duw, y Duw go iawn, sef yr ARGLWYDD, wedi siarad,ac wedi galw pawb drwy'r byd i gyd i ddod at ei gilydd.

2 Mae Duw yn dod o Seion, y ddinas harddaf un;mae wedi ymddangos yn ei holl ysblander!

3 Mae ein Duw yn dod, a fydd e ddim yn dawel –mae tân yn difa popeth o'i flaen,ac mae storm yn rhuo o'i gwmpas.

4 Mae'n galw ar y nefoedd uchod,a'r ddaear isod, i dystio yn erbyn ei bobl.

5 “Galwch fy mhobl arbennig i mewn,y rhai sydd wedi ymrwymo i mi drwy aberth.”

6 Yna dyma'r nefoedd yn cyhoeddi ei fod yn gyfiawn,am mai Duw ydy'r Barnwr. Saib

7 “Gwrandwch yn ofalus, fy mhobl! Dw i'n siarad!Gwrando Israel! Dw i'n tystio yn dy erbyn di!Duw ydw i, dy Dduw di!

8 Dw i ddim yn dy geryddu di am aberthu i mi,nac am gyflwyno offrymau i'w llosgi yn rheolaidd.

9 Ond does gen i ddim angen dy darw di,na bwch gafr o dy gorlannau –

10 Fi piau holl greaduriaid y goedwig,a'r anifeiliaid sy'n pori ar fil o fryniau.

11 Dw i'n nabod pob un o adar y mynydd,a fi piau'r pryfed yn y caeau!

12 Petawn i eisiau bwyd, fyddwn i ddim yn gofyn i ti,gan mai fi piau'r byd a phopeth sydd ynddo.

13 Ydw i angen cig eidion i'w fwyta,neu waed bychod geifr i'w yfed? – Na!

14 Cyflwyna dy offrwm diolch i Dduw,a chadw dy addewidion i'r Goruchaf.

15 Galw arna i pan wyt mewn trafferthion,ac fe wna i dy achub di, a byddi'n fy anrhydeddu i.”

16 Ond dyma ddwedodd Duw wrth y rhai drwg:“Pa hawl sydd gen ti i sôn am fy nghyfriethiau,a thrafod yr ymrwymiad wnaethon ni?

17 Dwyt ti ddim eisiau dysgu gen i;dwyt ti'n cymryd dim sylw o beth dw i'n ddweud!

18 Pan wyt ti'n gweld lleidr, rwyt ti'n ei helpu.Ti'n cymysgu gyda dynion sy'n anffyddlon i'w gwragedd.

19 Ti'n dweud pethau drwg o hyd,ac yn twyllo pobl wrth siarad.

20 Ti'n cynllwyn yn erbyn dy frawd,ac yn gweld bai ar fab dy fam.

21 Am fy mod i'n dawel pan wnest ti'r pethau hyn,roeddet ti'n meddwl fy mod i'r un fath â ti!Ond dw i'n mynd i dy geryddu di,a dwyn cyhuddiadau yn dy erbyn di.

22 Felly meddylia am y peth, ti sy'n anwybyddu Duw!Neu bydda i'n dy rwygo di'n ddarnau,a fydd neb yn gallu dy achub di!

23 Mae'r un sy'n cyflwyno offrwm diolch yn fy anrhydeddu i.Bydd y person sy'n byw fel dw i am iddo fywyn cael gweld Duw yn dod i'w achub.”