Salm 135 BNET

Emyn o fawl

1 Haleliwia!Molwch enw'r ARGLWYDD!Addolwch e, chi sy'n gwasanaethu'r ARGLWYDD

2 ac sy'n sefyll yn nheml yr ARGLWYDD,yn yr iard sydd yn nhŷ Dduw.

3 Molwch yr ARGLWYDD, am fod yr ARGLWYDD mor dda!Canwch i'w enw, mae'n hyfryd cael gwneud hynny!

4 Mae'r ARGLWYDD wedi dewis pobl Jacob iddo'i hun,ac Israel fel ei drysor sbesial.

5 Dw i'n gwybod fod yr ARGLWYDD yn fawr;mae ein Duw ni yn well na'r ‛duwiau‛ eraill i gyd.

6 Mae'r ARGLWYDD yn gwneud beth bynnag mae e eisiau,yn y nefoedd, ar y ddaear,ac i lawr i waelodion y moroedd dwfn.

7 Mae e'n gwneud i'r cymylau godi ym mhen draw'r ddaear;mae'n anfon mellt gyda'r glaw,ac yn dod â'r gwynt allan o'i stordai.

8 Fe wnaeth daro plentyn hynaf pob teulu yn yr Aifft,a'r anifeiliaid cyntafanedig hefyd.

9 Gwnaeth arwyddion gwyrthiol yn yr Aifftyn erbyn y Pharo a'i weision i gyd;

10 Concrodd lawer o wledydda lladd nifer o frenhinoedd –

11 Sihon, brenin yr Amoriaid,Og, brenin Bashan,a theuluoedd brenhinol Canaan i gyd.

12 Rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth –yn etifeddiaeth i'w bobl Israel.

13 O ARGLWYDD, mae dy enw di yn para am byth,ac yn cael ei gofio ar hyd y cenedlaethau.

14 Mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn ei boblac yn tosturio wrth ei weision.

15 Dydy eilunod y cenhedloedd yn ddim byd ond arian ac aur,wedi eu siapio gan ddwylo dynol.

16 Mae ganddyn nhw gegau, ond allan nhw ddim siarad;llygaid, ond allan nhw ddim gweld;

17 clustiau, ond allan nhw ddim clywed.Does dim bywyd ynddyn nhw!

18 Mae'r bobl sy'n eu gwneud nhw,a'r bobl sydd yn eu haddoli hefyd,yn troi'n debyg iddyn nhw!

19 Bendithiwch yr ARGLWYDD, chi bobl Israel!Bendithiwch yr ARGLWYDD, chi offeiriaid!

20 Bendithiwch yr ARGLWYDD, chi Lefiaid!Bendithiwch yr ARGLWYDD, chi rai ffyddlon yr ARGLWYDD!

21 Boed i'r ARGLWYDD, sy'n byw yn Jerwsalem,gael ei fendithio yn Seion!Haleliwia!